£20 (a costau £2.75 postio o fewn y DU)

------------------------------------------------------------------
Mae'r llyfrau canlynol yn ddwyieithog — Cymraeg / Saesneg …
(Rhestrir llyfrau eraill yn adran Saesneg y wefan hon)
KYFFINSyr Kyffin Williams, OBE, RA
Clawr meddal, 48 tudalen. Rhagair gan Robert Williams
Cyhoeddwyd gan Oriel Ynys Môn, 2008
£10 (yn cynnwys postio o fewn y DU)

"Mae llawer o baentwyr tirluniau yn ymateb i’w gwlad eu hunain yn gryfach nag i’r un arall, ac rwy’n fodlon aros yng Nghymru a phaentio fy rhan neilltuol i fy hun ohoni.
Yn Ynys Môn mae’r ffermydd a’r bythynnod gwynion yn fy nghroesawu, ac ar draws AfonMenai gallaf weld y mynyddoedd rhyfeddol yna ac rwy’n gallu manteisio arnyn nhw pa bryd bynnag rwyf am wneud hynny.”
Ynys LawdGoleudy enwog Môn
—gan Ian Jones. Clawr meddal, 84 tudalen. Oriel Ynys Môn, 2009.
£9.95 (a costau £1.15 postio o fewn y DU)

Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ymatebodd Bwrdd Trinity House i bryderon ynglŷn â’r peryglon o nesáu at hen borthladd Caergybi, drwy ganiatáu adeiladu goleudy ar Ynys Lawd. Fe gwblhawyd y dasg anodd hyn gan dîm o gontractwyr cymwys lleol a oedd yn gweithio i gynlluniau syrfëwr y Bwrdd, Daniel Alexander. Fe wnaed y gwaith yn ystod hydref a gaeaf 1808, a dangoswyd y golau yn gyntaf ar Chwefror y 9fed 1809, cwta naw mis ar ôl cychwyn.
Mae’r llyfr hwn, sy’n cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr yn eu maes, yn cofnodi’r gamp anhygoel hyn ac yn amlinellu’r ddwy ganrif o hanes y goleudy a’i cheidwaid.
Biwmares: hanes y dref— gan Philip Steele a Robert Williams
£9.95 (a costau £1 postio o fewn y DU)

Roedd cornel de-ddwyreiniol ynys Môn unwaith yn ganolfan grymus diwylliant a llywodraeth Cymru. Penderfynodd ymosodwyr o Loegr adeiladu cadarnle anorchfygol yn y berfeddwlad Gymreig hon. Cododd castell ar ‘gors brydferth’ — Beau Mareys — ar fin y môr.
Heddiw, tref fechan Biwmares yw un o’r trefi mwyaf diddorol ym Mhrydain. Mae hanes llawn cyffro a golygfeydd godidog yn dod ag ymwelwyr o bob rhan o’r byd i’r safle Treftadaeth Byd. Mae stori’r llyfr hwn – mewn geiriau a llawer o luniau – yn adrodd am dywysogion Cymreig a marchogion o’r Canol Oesoedd, ffermwyr a physgotwyr, beirdd a brwydrau.
Clawr meddal, 48 tudalen, 210mm x 205mm. Cyhoeddwyd gan Llyfrau Magma
Yn cynnwys canllaw tynnu-allan yn disgrifio taith gerdded hanner awr o gwmpas prif adeiladau ac atyniadau’r dref.
Adar Môn— gan Peter Hope Jones a Paul Whalley
Gyda phennod ar Ynys Seiriol gan Richard Arnold. Lluniau du a gwyn drwyddo draw gan Philip Snow a Steve Culley, ynghyd â mapiau lliw ac adran gyda 32 llun lliw o gynefinoedd Ynys Môn.
Fformat mawr (210mm x 297mm), clawr meddal, 614 tudalen. Menter Môn 2004, ISBN 0 9547358-1-1
£29.95 (rhad bost o fewn y DU)

Enwau Lleoedd Môn— gan Gwilym T Jones a Tomos Roberts
Cyngor Sir Ynys Môn / Canolfan Ymchwil Cymru, 1996
Clawr caled, 192 tudalen. ISBN 0-904567-71-0
£15 (rhad bost o fewn y DU)